GWYBODAETH
Fe´m ganwyd yn Sheffield, Swydd Efrog yn 1966 (Sais yw fy nhad, ac o Ddenmarc y daw fy mam). Wedi astudio argraffu ym Mholytecnic Sheffield es i fyw yn Nenmarc yn 1988 i astudio graffeg ac yna dylunio seramig yn Copenhagen yn Danmarks Design Skole.
Setlais i lawr yng Ngogledd Cymru yn 2005 gyda´m gwr a 3 o blant, ac wedi´m ysbrydoli gan y tirwedd fe es yn ol i argraffu. Daw´r deunudd ar gyfer y lluniau o ddyluniau, lluniau ffotograffig a´m dychymyg, ac hyd yn hyn wedi´m dylanwadu gan batrwm bywyd prysur magu tri o blant, a´r lleoliadau y byddwn yn ymweld â nhw fel teulu.
Rwyf yn bennaf yn gweithio gyda lino, ond rwyf wedi datblygu techneg sydd yn fy ngalluogi i gadw´r ddelwedd ar y lino, ond gan adeiladu´r haenau o liwiau i fyny gan greu delwedd eithaf haniaethol gyda theimlad eithaf garw iddo. Mae hyn yn cyferbynnu gyda phrints lino traddodiadol gyda´u llinellau cryf solet caled. Mae pob print yn unigryw, gan fy mod yn ei ail weithio gyda roleri, gan fasgio ambell i ardal o´r llun, gan argraffu mono a chrafu´n ol. Rwy´n hoff iawn o weithio´n fyrfyfyr fel hyn, ac yn mwynhau´r gwaith corfforol o wneud fy mhrints.
Mae fy ngwaith seramig wedi´n galluogi i ddeall a gwerthfawrogi teimlad a natur 3-D celf, a natur ysgafn `glazes´seramig, gobeithio fod fy ngwaith argraffu yn adlewyrchu y safonau yma.
